Loading Events

« All Events

SAILS – Paratoi ar gyfer Sefydlu a Phontio: Beth sy’n gweithio?

May 1 @ 12:00 pm - 2:15 pm

Ydych chi’n ymwneud â threfnu gweithgareddau sefydlu yn eich Coleg? Hoffech chi ddatblygu ffyrdd newydd o ymwneud â myfyrwyr er mwyn eu helpu i ymgartrefu yn y brifysgol?

Ymunwch â SAILS am y gweithdy rhyngweithiol hwn i ystyried profiad myfyrwyr o bontio i addysg uwch a thrwy’r flwyddyn gyntaf, i baratoi ar gyfer gweithgareddau sefydlu yn eich Coleg a thrafod beth sy’n gweithio!

Byddwch yn cwrdd â chydweithwyr o bob rhan o’r Brifysgol, yn rhannu arfer da, yn ystyried newidiadau i weithgareddau sefydlu a phontio yn y dyfodol ac yn mwynhau cinio ysgafn am ddim.

Bydd y gweithdy hwn yn ymdrin ag arfer da yn y meysydd canlynol:

•Profiad myfyrwyr o bontio i addysg uwch a thrwy’r flwyddyn gyntaf, gan gynnwys cyn cyrraedd, sefydlu cychwynnol ac ymyriadau drwy gydol y flwyddyn

•Cynwysoldeb mewn gweithgareddau sefydlu a phontio

•Cynnwys myfyrwyr wrth gynllunio a gwerthuso gweithgareddau sefydlu a phontio

Darperir cinio ysgafn a fydd yn cynnwys dewisiadau llysieuol a dim glwten. Os oes gennych anghenion eraill o ran diet neu hygyrchedd, e-bostiwch cynwysoldeb@abertawe.ac.uk

Bydd cinio ysgafn ar gael o 12:00.
Bydd y gweithdy’n cychwyn am 12:15.

Archebwch yn awr drwy Eventbrite!

Organiser

Jude Kitson-Jones

Venue

Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, GH018
Swansea University
Swansea, SA1 8EN United Kingdom
+ Google Map