Loading Events

« All Events

Myfyrio ar Sefydlu a Throsglwyddo: Beth sy’n gweithio?

October 18 @ 12:30 pm - 3:30 pm

Ydych chi’n rhan o drefnu gweithgareddau sefydlu yn eich Coleg? Hoffech chi ddatblygu ffyrdd newydd o ymgysylltu â myfyrwyr i’w helpu i ymgartrefu ym mywyd y brifysgol?

Ymunwch ag Academi Cynwysoldeb a Chymorth Dysgwyr Abertawe ar gyfer y gweithdy rhyngweithiol hwn i fyfyrio ar weithgareddau sefydlu Colegau a darganfod beth sy’n gweithio’n dda ar gyfer sefydlu myfyrwyr a throsglwyddo i addysg uwch!

Dewch i gwrdd â chydweithwyr o bob cwr o’r Brifysgol, rhannu arfer da, ystyried newidiadau i weithgareddau sefydlu’r dyfodol a mwynhau cinio am ddim.

Bydd y gweithdy hwn yn cynnwys:

  • Arfer da cyfredol
  • Cynwysoldeb ar gyfer sefydlu a throsglwyddo
  • Cynnwys myfyrwyr mewn cynllunio a gwerthuso gweithgareddau sefydlu
  • Sefydlu fel proses – y wybodaeth gywir ar yr adegau allweddol
  • Amcanion y sefydlu
  • Newidiadau i lawlyfrau’r Colegau

Darperir cinio a bydd yn cynnwys dewisiadau llysieuol a dim glwten. Os oes gennych unrhyw anghenion dietegol arbennig eraill neu ofynion mynediad, anfonwch e-bost i cynwysoldeb@abertawe.ac.uk

Archebwch nawr ar gyfer Eventbrite!

Venue

TBC

Organiser

Jude Kitson-Jones